
Yr hyn y credwn y gall ein gwaith ei gyflawni
Trwy weithio gyda'n gilydd rydym yn anelu i wella gwasanaethau a thrawsnewid ein cymunedau.

Natur, Ynni ac Addasu Hinsawdd
Gwaith ar y cyd i:
-
Cysoni cynlluniau newid hinsawdd, adfer natur ac isadeiledd gwyrdd ledled Cymru a Lloegr i mewn i un fframwaith strategol ar gyfer twf gwledig a sefydlu Parth Buddsoddi Amgylcheddol.
-
Datblygu uwchgynllun ynni trawsffiniol, gan archwilio hybiau a nodau EV trawsffiniol, cynhyrchu hydrogen ac echdynnu carbon.

Cludiant a Thrawsnewid Digidol
Cydweithio er mwyn:
-
Gwella symudiadau trawsffiniol i leihau tagfeydd a gwella llif traffig.
-
Gwella teithio llesol a chyflawni cynlluniau i wella gwasanaethau bysiau.

Iechyd, Tai a Sgiliau
Cydweithio er mwyn:
-
Datblygu cynnig sgiliau trawsffiniol, gan gynnwys sgiliau gwyrdd a Chanolfan Ragoriaeth ar gyfer Addasu Hinsawdd.
-
Ehangu’r model Hwb Twf Y Gororau presennol ar draws ffiniau i ymestyn cyrhaeddiad cymorth busnes.

Bwyd, Datblygu Gwledig a'r Economi Ymwelwyr
Cydweithio er mwyn:
-
Datblygu dulliau ar y cyd o ddatblygu cynnyrch twristiaeth a rheoli cyrchfan.
-
Archwilio a chefnogi cadwyni cyflenwi bwyd lleol, gan gynnwys nodi cyfleoedd i gefnogi arloesedd a chlystyru yn y sector bwyd.
