
Sut rydym yn gweithio
Er bod nifer o enghreifftiau o awdurdodau lleol a sefydliadau eraill yn gweithio mewn partneriaeth ar draws ffiniau gweinyddol a chenedlaethol i ddatblygu diddordeb cyffredin, nid oes mecanwaith cyfreithiol ar hyn o bryd ar gyfer partneriaeth drawsffiniol gyda phwerau statudol.
O ganlyniad, comisiynwyd Metro Dynamics i argymell model llywodraethu a chyflawni sy'n syml ac yn gymesur i'n galluogi i weithio'n effeithiol ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr.
Bydd bwrdd partneriaeth chwarterol sy'n cynnwys arweinwyr a phrif weithredwyr o'r pedwar awdurdod lleol yn goruchwylio ffocws strategol y bartneriaeth. Bydd rôl y cadeirydd yn cylchdroi drwy'r pedwar awdurdod lleol. Ni fydd y bartneriaeth a'r bwrdd yn gallu gwneud unrhyw benderfyniadau ar ran, neu sy’n ymrwymo, unrhyw sefydliad partner.
Bydd y bwrdd yn cymeradwyo sefydlu grwpiau rheoli rhaglenni â therfynau amser yn ôl yr angen i yrru ein hymyriadau. Bydd y bwrdd yn penderfynu fesul achos a yw grwpiau rheoli rhaglenni yn gweithredu o dan gylch gorchwyl y cytunwyd arno neu a oes angen trefniant cyd-fenter fwy ffurfiol gyda chraffu a sicrwydd ychwanegol.
Caiff y bartneriaeth ei hadnoddau drwy gyfraniadau amser staff a chaiff ei chydlynu gan arweinydd rhaglen ymrwymedig.
Fe fydd pwyllgor sicrwydd a chraffu, sy'n cynnwys rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys cynrychiolwyr busnes a'r trydydd sector yn ogystal â swyddogion etholedig.
Ei rôl fydd llywio amcanion cyffredinol gwerth am arian y rhaglen a'r broses datblygu prosiectau, sicrhau bod prosiectau'n bodloni amcanion ac yn rhoi'r gwerth gorau.

