top of page

Beth sy'n ein rhwymo â phwrpas cyffredin

Gwledigrwydd
(dwysedd poblogaeth 0.9 o bobl yr hectar) - mynediad hirach a mwy costus i wasanaethau.

Poblogaeth sy'n heneiddio
(mwy na 30% o'r boblogaeth yn 65+ erbyn 2043) - gofynion newidiol y gwasanaeth, yn enwedig darparu gofal cymdeithasol i oedolion, a gwasgiad o’r gweithlu sydd ar gael.

Lefelau isel o gynhyrchiant
(tua 25% yn is na'r cyfartaledd yn y DU) - wedi ei ddylanwadu gan boblogaeth hÅ·n, cymudo allan net o’r ardal a'r gymysgedd sectorau yn yr ardal.

Twf cyflogaeth isel
(islaw lefelau cenedlaethol erbyn 2031) - mae twf wedi'i ganoli mewn ychydig o ardaloedd trefol ond yn dawel iawn yn yr ardaloedd mwy gwledig.

Cysylltedd costus a heriol
(gall llai na 40% o adeiladau ym Mhowys, Sir Amwythig a Sir Fynwy gael mynediad at isadeiledd Gigabit) - mae'r isadeiledd yn fwy costus ac yn fwy heriol i'w gyflawni.

bottom of page
